SL(5)346 – Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) (Diwygio) 2019

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn amnewid y darpariaethau arbed a throsiannol yn Rheoliad 62 (2) i (6) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”).

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau 2017 i ychwanegu cyfeiriad at osod llinellau trydan uwchben. Effaith y diwygiad hwn yw y gallai fod angen cynnal asesiad o’r effaith amgylcheddol mewn cysylltiad â datblygiad o’r fath cyn rhoi caniatâd cynllunio.

Gweithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan y pŵer yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (mewn perthynas â’r gofyniad am asesiad o’r effaith ar yr amgylchedd gan brosiectau sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd). O'r herwydd, bydd y Rheoliadau hyn yn dod yn rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir ar y diwrnod ymadael.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y Llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

8 Mawrth 2019